Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.01 - 09.55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.2 P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.3 P-04-571 Trin Anemia Dinistriol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.4 P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.5 P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol i geisio eu barn:
· Y Gweinidog Tai ac Adfywio a
· Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghylch sawl un o awdurdodau lleol Cymru sydd yn yr un sefyllfa ag Abertawe.
2.6 P-04-574 Gwasanaethau Bws ym Mhorth Tywyn
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb.
2.7 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn am y ddeiseb; ac at
· y deisebwyr i'w hysbysu am amserlen y Bil Cynllunio (Cymru).
2.8 P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
· Comisiynydd Plant Cymru, a
· Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
i geisio eu barn am y ddeiseb.
2.9 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am eu barn am y ddeiseb.
2.10 P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-541Cefnogaeth i'r Mentrau Iaith
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Prif Weinidog am ei ymateb i sylwadau'r deisebwyr.
3.2 P-04-548 Ailgyflwyno dosbarthiadau Cymraeg ym Mhrifysgol Rennes
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Addysg Uwch Cymru i weld a fyddai modd iddo gefnogi darpariaeth yn Rennes.
3.3 P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ystyried trefnu sesiwn dystiolaeth lafar gyda'r deisebydd, yn dibynnu ar yr ymateb gan y Gweinidog ynghylch P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru.
3.4 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i geisio barn y Gweinidog am ohebiaeth y deisebwyr. Yn dilyn ymateb y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ystyried trefnu sesiwn dystiolaeth lafar gyda deisebwyr P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat.
3.5 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y Gweinidog am ohebiaeth y deisebydd.
3.6 P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog unwaith y bydd adroddiad y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm i Lywodraeth Cymru yn dod i law ac wedi ei ystyried.
3.7 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog unwaith y bydd adroddiad y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm i Lywodraeth Cymru yn dod i law ac wedi ei ystyried.
3.8 P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog newydd am ei ymateb i sylwadau pellach y deisebwyr.
3.9 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am y cynnydd o ran penodi olynydd i Dr Andrew Goodall fel Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru ac am y cynnydd o ran y materion eraill a nodwyd gan y deisebwyr; ac
· yn gofyn am ymatebion gan y Byrddau Iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.
3.10 P-04-545 Gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ddangos ymateb y bwrdd iechyd lleol i'r Gweinidog, yn dilyn ei gais am hynny (gan gynnwys y wybodaeth am y cynllun rhithwir ar gyfer cleifion mewnol), a
· cheisio barn y deisebwyr am yr ymatebion a gafwyd.
3.11 P-04-543 Dim cynnydd mewn ffioedd dysgu prifysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Gweinidog roi gwybod i'r Pwyllgor am ganlyniad adolygiad Syr Ian Diamond; a
· gofyn i'r Tîm Clercio geisio sefydlu cyswllt i weithredu fel prif ddeisebydd ac wrth wneud hynny gofyn am eu barn am ymateb y Gweinidog.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a mynegodd rhywfaint o bryder ynghylch rhai datganiadau yn llythyr y deisebwr. Cytunodd y Pwyllgor i:
· aros am ymateb llawn y deisebydd ac i ystyried yr holl bapurau mewn cyfarfod yn y dyfodol;
· ceisio barn Cymorth i Ferched Cymru ar ohebiaeth y deisebydd; ac
· yng ngoleuni'r ymatebion, gwneud penderfyniad ynghylch cau'r ddeiseb.
Cyn cau'r cyfarfod, atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 23 Medi 2014.
3.12 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.